5 Mawrth 2014 - Papurau i'w nodi

Papur rhif:

Mater /Dyddiad y cyfarfod

Gan

Cam Gweithredu

5

Ymchwiliad i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru 12/02/14

Gwasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ddogfen friffio cyfreithiol ynghylch statws y canllawiau (Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru) a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964.

6a, 6b ac 6c

Ymchwiliad i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru 12/02/14

CLlLC

Gofynnodd y Pwyllgor am ystadegau ar y defnydd a wneir o wasanaethau llyfrgell digidol a dadansoddiad o oedran y defnyddwyr; a gwybodaeth am y rhaglen Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, o ran y defnydd o lyfrgelloedd prifysgolion a sut y gellir gwella'r mynediad at ddeunydd cyfeirio.

 

Llythyr gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn Adolygiad Llywodraeth Cymru o lyfrgelloedd cyhoeddus

 

Llythyr gan Gyfarwyddwr CyMAL ynghylch llyfrgelloedd

 

7

Ymchwiliad i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru 20/02/14

Cymunedau 2:0

Cytunodd Cymunedau 2:0 i ddarparu linc i astudiaethau achos ar gynhwysiant digidol.

8

Y Bil Tai (Cymru)

6/12/14

Gweinidog Tai ac Adfywio

Yn dilyn sesiwn dystiolaeth y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i gael eglurhad pellach.

9a ac 9b

Y Gymraeg 4/12/13

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth gyda'r Prif Weinidog ar drafod y materion sy'n ymwneud â'r Gymraeg, ysgrifennodd y Cadeirydd at y Prif Weinidog a Chadeiryddion y Pwyllgorau.

 

Llythyr gan Jocelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mewn ymateb i'r llythyr gan Christine Chapman, dyddiedig 28 Ionawr 2014.

Cyfeiriwyd at y llythyr at y Gweinidog Cyllid.

10

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 6/11/13

Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ysgrifennodd y Cadeirydd at y Gweinidog i gael barn Llywodraeth Cymru ar y materion a godwyd.